On Sunday afternoon of Pascha, Orthodox Christians celebrate the Agape Vespers. The service is a bookend to Forgiveness Vespers at the start of Lent. It is to express our love for each other in the Resurrected Lord. At Agape Vespers, often the Gospel is read in different languages to express how the Apostles, given the Holy Spirit to loose their fellows from the tomb of sin, ran to convert others with the good news: “Christ is Risen! Truly He is Risen!” Here is the Gospel selection for Agape Vespers in Welsh.
John 20:19-25
Y noson honno, sef nos Sul, roedd y disgyblion gyda’i gilydd. Er bod y drysau wedi’u cloi am fod ganddyn nhw ofn yr arweinwyr Iddewig, dyma Iesu’n dod i mewn a sefyll yn y canol. “Heddwch i chi!” meddai wrthyn nhw. Yna dangosodd ei ddwylo a’i ochr iddyn nhw. Roedd y disgyblion mor hapus pan welon nhw’r Arglwydd.
Yna dwedodd Iesu eto, “Heddwch i chi! Yn union fel anfonodd y Tad fi, dw i hefyd yn eich anfon chi.” Wedyn chwythodd arnyn nhw, a dweud, “Derbyniwch yr Ysbryd Glân. Os gwnewch chi faddau pechodau rhywun, bydd y pechodau hynny yn cael eu maddau; ond os fyddwch chi ddim yn maddau iddyn nhw, fyddan nhw ddim yn cael maddeuant.”
Doedd Tomos ddim yno pan wnaeth Iesu ymddangos, (Tomos oedd yn cael ei alw ‘Yr Efaill’ – un o’r deuddeg disgybl). Dyma’r lleill yn dweud wrtho, “Dŷn ni wedi gweld yr Arglwydd!” Ond ei ymateb oedd, “Nes i mi gael gweld ôl yr hoelion yn ei arddyrnau, a rhoi fy mys yn y briwiau hynny a rhoi fy llaw i mewn yn ei ochr, wna i byth gredu’r peth!”